Welsh

Gweinidog Addysg yn lansio platfform newydd Cymru yn y Rhyfel

2015-11-02 # Wales = ST-CYRES001Ar ddydd Llun 2 Tachwedd 2015, bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn lansio platfform newydd Cymru yn y Rhyfel yn Ysgol St Cyres, Penarth - adnodd digidol, dwyieithog o bwys ar gyfer plant ysgol, athrawon ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’i effaith ar gymunedau yng Nghymru.

Ariennir Cymru yn y Rhyfel  gan Gyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog, Cronfa Treftadaeth y Loteri ac Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru. Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n arwain y prosiect, mewn partneriaeth â’r Llynges Frenhinol ac ysgolion dros Gymru. Mae’r prosiect hefyd wedi elwa o weithio’n agos gydag ystod o bartneriaid, gan gynnwys y Lluoedd Arfog, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru a Chomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad.

Bydd Cymru yn y Rhyfel yn gweithio gyda phobol ifanc dros Gymru i ddatblygu eu dealltwriaeth o hanes y rhyfel gan ddefnyddio adnoddau digidol. Mae’r gwefan a’r ap yn cynnwys llinell amser y Rhyfel gyda naws Gymreig, adran Theatrau Rhyfel yn dangos lle bu aelodau’r Lluoedd Arfog o Gymru yn ymladd, a theclyn sy’n cefnogi pobol ifanc a’r cyhoedd i greu bywgraffiadau o’r enwau wedi’u rhestri ar eu cofebion ryfel lleol. Bydd y prosiect yn codi ymwybyddiaeth gymunedol o gofebion, gan dynnu sylw at unrhyw anghenion cadwraeth, a bydd yn creu gwaddol ystyrlon o’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru.

Mae’r prosiect yn ffurfio rhan o Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918, rhaglen Llywodraeth Cymru i goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf dros Gymru.   

2015-11-02 # Wales = ST-CYRES038
Left to right front: Samuel Bowen, 14, Hannah Lewis, 15, and Ethan Thomas,14,
who presented their research at the launch event.

Left to right back: Professor Lorna Hughes, Wales at War Principal Investigator,
Nigel Clubb, Heritage Lottery Fund,
Huw Lewis AM, Minister For Education and Skills,
Dr Jonathan Hicks, Headteacher at St Cyres, and Warrant Officer Diana Cope of The Royal Navy.

Wrth lansio’r platfform newydd, dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis AC:

"Mae’n bleser gen i lansio platfform newydd Cymru yn y Rhyfel – prosiect i ddatblygu dysgu cynhwysol ac yn annog gweithgareddau treftadaeth fel rhan o goffau canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru.

"Un o brif amcanion ein rhaglen Cymru'n Cofio Wales Remembers 1914-1918 yw annog ein pobol ifanc i ymddiddori yn nigwyddiadau a chanlyniadau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

"Bydd y prosiect yma, sydd â naws Cymreig arbennig, yn meithrin cydweithio rhwng ysgolion, teuluoedd, grwpiau cymunedol a sefydliadau milwrol drwy ddatblygu bywgraffiad cyfunol o Gymru yn y rhyfel.”

2015-11-02 # Wales = ST-CYRES036Dywedodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri yng Nghymru:

"Mae cofebion rhyfel yn deyrngedau ffisegol i’n harwyr rhyfel. Fel mae’r prosiect arbennig yma yn dangos, mae diddordeb mawr i goffau’r canmlwyddiant ac i ddarganfod a rhannu treftadaeth y Rhyfel Byd Cyntaf, yn aml mewn ffurf newydd a gwahanol. Mae rhai o’r straeon yn bryfoclyd ac ysbrydoledig; rhai yn anghyfforddus ac yn creu dadl. Yr ydym am annog cymunedau i archwilio’r straeon yma ac yr wyf yn falch iawn bod y prosiect yma yn cyrraedd gymaint o bobol.”

Ychwanegodd Dr Jonathan Hicks, Pennaeth Ysgol St Cyres, hanesydd milwrol ac awdur:

“Mae canmlwyddiant a choffâd y Rhyfel Mawr yn rhoi cyfle unigryw i ni i weithio gyda phobol ifanc gan ddysgu iddynt y sgiliau i’w galluogi i ddysgu mwy am effaith y rhyfel dinistriol yma ar eu cymunedau. Mae ap a gwefan Cymru yn y Rhyfel yn gwneud y defnydd gorau o’r dechnoleg mae pobol ifanc yn defnyddio’n ddyddiol i ddatblygu eu sgiliau ymchwil a chydweithio.”

Mae’r wefan ar gael o www.walesatwar.org a gellid lawrlwytho’r ap, yn rhad ac am ddim, o’r App Store, Google Play a drwy Hwb, platfform dysgu digidol Llywodraeth Cymru.

Mae Cymru yn y Rhyfel  yn brosiect pwysig sy’n estyn allan gan annog pobol ifanc a chymunedau dros Gymru i weithio gyda'i gilydd i ddarganfod mwy am effaith y rhyfel ar Gymru. Erbyn 2019, gyda’ch cymorth chi, mae’r prosiect yn gobeithio casglu straeon personol tua 40,000 o Gymry - milwyr, morwyr, awyrenwyr, nyrsys a phobol gyffredin - a gollodd eu bywydau fel rhan o ymdrech ryfel Cymru.

Gwybodaeth bellach:
Rhian James, Rheolwr Prosiect, rhian.james@llgc.org.uk  neu 01970 632970
Elin-Hâf post@llgc.org.uk neu 01970 632534

Top of Page